Cyn ichi symud ymlaen
Bydd gennych gyfle i ddarparu gwybodaeth fanwl am eich hawliad, ond efallai y byddech eisiau sicrhau bod gennych yr wybodaeth ofynnol sylfaenol wrth law:
-
1
Enw a chyfeiriad pob hawlydd (chi neu’r unigolyn yr ydych yn hawlio ar ei gyfer)
-
2
Enw a chyfeiriad yr atebydd rydych yn hawlio yn ei erbyn - gellir dod o hyd i’r wybodaeth hon mewn unrhyw lythyr rydych wedi’i gael yn cynnig swydd i chi, contract cyflogaeth neu slipiau cyflog
-
3
Rhif y dystysgrif a roddwyd o ganlyniad i broses cymodi cynnar Acas ar gyfer pob atebydd, neu eglurhad pam nad oes gennych chi un.
Nid oes rhaid i chi lenwi’r ffurflen hawlio i gyd ar unwaith. Gallwch gadw'r ffurflen a mynd yn ôl i'w llenwi ar unrhyw adeg cyn ei chyflwyno.