Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Gwneud Hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan https://www.claim-employment-tribunals.service.gov.uk sy’n caniatáu i ddefnyddwyr wneud hawliadau i dribiwnlys cyflogaeth pan fo cyflogwr, darpar gyflogwr, undeb llafur neu rywun yn y gwaith wedi trin rhywun arall yn anghyfreithlon.

Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF sy’n gyfrifol am y wefan hon, ac rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu ei defnyddio. Er enghraifft, golyga hyn y dylech allu:

  • newid y lliwiau, y lefelau cyferbyniad a’r ffontiau
  • gwneud y testun hyd at 300% yn fwy heb iddo ddiflannu oddi ar y sgrin
  • mynd drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mynd drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver).

Rydym hefyd wedi sicrhau ein bod wedi defnyddio iaith syml ar y wefan.

Mae gan AbilityNet gyngor ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyn ar eu gwefan https://mcmw.abilitynet.org.uk/.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Gwyddwn nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Ar rai tudalennau nid yw’r nodwedd ffocysu ar yr eitemau disgwyliedig
  • Ar rai tudalennau nid oes gan ddolenni ddisgrifiadau clir o’u pwrpas ac i ble y maent am fynd â chi e.e. diffyg gwybodaeth ar p’un a fydd y ddolen yn agor mewn tab newydd
  • Nid oes gan rai meysydd labeli cysylltiol sy’n effeithio ar ddarllenwyr sgrin a defnyddwyr meddalwedd llais.
  • Ar rai tudalennau nid yw lefelau teitlau yn y drefn gywir.
  • Nid yw rhai eitemau y gellir mynd iddynt drwy ddefnyddio’r botwm tab ar y bysellfwrdd wedi’u hamlygu’n glir iawn ac weithiau mae’n anodd i ddefnyddwyr sydd â nam ar eu golwg eu gweld.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os ydych angen gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat arall megis ar ffurf PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

  • e-bostiwch HMCTSforms@justice.gov.uk
  • ffoniwch 0300 323 0196 (Cymru a Lloegr)
  • ffoniwch 0300 303 5176 (ar gyfer siaradwyr Cymraeg)
  • ffoniwch 0300 790 6234 (Yr Alban)

Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn 10 diwrnod.

Riportio problemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym o hyd yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod ar draws rhywbeth sydd heb ei gynnwys ar y dudalen hon, neu’n credu nad ydym yn bodloni’r gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch ag:

  • ebost: ETReform@justice.gov.uk
  • ffôn 0300 323 0196 (Cymru a Lloegr)
  • ffôn 0300 303 5176 (ar gyfer siaradwyr Cymraeg)
  • ffôn 0300 790 6234 (Yr Alban)

Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm.

Y Weithdrefn Orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n fodlon gyda’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) drwy eu gwefan https://www.equalityadvisoryservice.com/.

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid negeseuon testun ar gyfer pobl fyddar, pobl sydd â nam ar eu clyw a phobl sydd â nam ar eu lleferydd.

Mae yna ddolenni sain yn ein swyddfeydd, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar eich cyfer.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i gysylltu â ni yn https://www.gov.uk/guidance/employment-tribunal-offices-and-venues.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae GLlTEF wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefannau yn hygyrch, a hynny yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Gyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 safon AA, oherwydd y materion a restrir isod.

Cynnwys anhygyrch

Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.

Anghydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

  • Ar rai tudalennau nid yw’r nodwedd ffocysu ar yr eitemau disgwyliedig, ac felly nid yw hyn yn cydymffurfio â maen prawf llwyddiant 2.4.3 Trefn Ffocws Lefel A WCAG 2.1A.
  • Ar rai tudalennau nid oedd gan ddolenni ddisgrifiadau clir o’u pwrpas ac i ble y maent am fynd â chi e.e. diffyg gwybodaeth ar p’un a fydd y ddolen yn agor mewn tab newydd, ac felly nid yw hyn yn cydymffurfio â maen prawf llwyddiant 2.4.4 Pwrpas Dolen Lefel A WCAG 2.1A.
  • Nid oes gan rai meysydd labeli cysylltiol sy’n effeithio ar ddarllenwyr sgrin a defnyddwyr meddalwedd llais. Nid yw hyn yn cydymffurfio â maen prawf llwyddiant 1.3.1. Gwybodaeth a Pherthnasoedd Lefel A, 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth Lefel A na 2.5.3. Label Enw - Lefel A WCAG 2.1A.
  • Ar rai tudalennau nid yw lefelau teitlau yn y drefn gywir, ac felly nid yw hyn yn cydymffurfio â maen prawf llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd Lefel A WCAG 2.1A.
  • Nid yw rhai eitemau y gellir mynd iddynt gan ddefnyddio’r allwedd tab ar y bysellfwrdd wedi’u hamlygu’n glir iawn, ac weithiau mae’n anodd i ddefnyddwyr sydd â nam ar eu golwg eu gweld. Nid yw hyn yn cydymffurfio â maen prawf llwyddiant 1.4.11 Cyferbyniad nad yw’n ymwneud â Thestun Lefel AA WCAG 2.1A.
  • Canfyddodd defnyddwyr darllenydd sgrin nad oedd y botymau radio yn cynnwys labeli nag allweddi i ddangos y cwestiwn perthnasol wrth ffocysu i mewn ac allan o’r cynnwys. Nid yw hyn yn cydymffurfio â maen prawf llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd - Lefel A na 2.4.6 Penawdau a Labeli - Lefel AA.

Rydym yn bwriadu datrys y materion a restrir uchod erbyn Mawrth 2023.

Cynnwys sydd ddim o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Mae rhai o’n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i’r gwasanaethau a ddarparwn. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF gyda gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gael mynediad i’n gwasanaethau, a ffurflenni a gyhoeddir ar ffurf dogfennau Word/PDF.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni addasu dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd y byddwn yn eu cyhoeddi yn bodloni’r safonau hygyrchedd.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd y gwasanaeth hwn

Mae gwaith yn cael ei wneud ar y wefan hon ar hyn o bryd yn seiliedig ar yr adroddiad argaeledd digidol. Byddwn yn datrys y problemau hygyrchedd a adnabuwyd yn yr adroddiad ac yn diweddaru’r datganiad hwn yn rheolaidd. Mae’r wefan yn cael ei phrofi’n barhaus gan ddefnyddio meddalwedd hygyrchedd mewnol ac allanol. Bydd unrhyw nodweddion newydd a gyflwynir hefyd yn cael eu profi.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 19 Ionawr 2023.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 15 Tachwedd 2022. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC) ac ystyriwyd pedwar egwyddor:

Egwyddor 1: Canfyddiadwyedd - Rhaid i wybodaeth a chydrannau a ddefnyddir gan ddefnyddwyr fod yn addas iddynt ar ffurf y gallant ganfod.

Egwyddor 2: Ymarferoldeb - rhaid i’r cydrannau a ddefnyddir gan ddefnyddwyr a’r ffordd y defnyddir y gwasanaeth fod yn ymarferol.

Egwyddor 3: Dealladwy - Rhaid i wybodaeth a’r cydrannau a ddefnyddir gan ddefnyddwyr fod yn ddealladwy.

Egwyddor 4: Cadarn - Rhaid i’r cynnwys fod ddigon cadarn fel y gall amrywiaeth eang o asiantau sy’n ddefnyddwyr, gan gynnwys technolegau cynorthwyol ei ddeall yn ddidrafferth.

I gynnal adolygiad mwy cywir o’r gwasanaeth, mi wnaeth tîm DAC ddefnyddio dwy broses brofi wahanol:

Roedd y cyntaf yn archwiliad technegol â llaw gan ddefnyddio offer awtomataidd, a’r ail yn dîm ymroddedig o ddefnyddwyr gydag anableddau gwahanol yn profi’r gwasanaeth gan ddefnyddio ystod o dechnolegau addasol. Yna cafodd yr holl ddarganfyddiadau eu cyfuno i roi adborth llawer mwy cywir ar y wefan i’r cleient.

Drwy ddefnyddio’r tîm profi ochr yn ochr â gweithdrefn awtomataidd, mae set fwy cywir o ganlyniadau ar gael.