Gwneud hawliad i dribiwnlys Cyflogaeth

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud hawliadau i dribiwnlys cyflogaeth pan fo cyflogwr, darpar gyflogwr, undeb llafur neu rywun yn y gwaith wedi trin rhywun arall yn anghyfreithlon.

Yn ystod y broses tribiwnlys cyflogaeth, mae'r sefydliadau neu'r bobl rydych chi'n gwneud hawliad yn eu herbyn yn cael eu galw'n 'atebwyr'.
Rhybudd I wneud hawliad mae angen i chi gysylltu ag Acas a chael ‘tystysgrif cymodi cynnar’ ganddynt neu roi rheswm dilys i ni pam nad oes gennych un.

Os nad oes gennych dystysgrif neu reswm mae angen i chi gysylltu ag Acas (yn agor mewn tab newydd)

Nid oes rhaid i chi wneud yr hawliad i gyd ar unwaith. Gallwch ei gadw a dychwelyd ar unrhyw adeg cyn i chi ei gyflwyno.

Rhybudd Fel arfer mae’n rhaid gwneud hawliad o fewn 3 mis i gyflogaeth ddod i ben neu i adeg y problemau a gododd. Os yw hawliad yn hwyr, rhaid i chi egluro pam. Bydd barnwr wedyn yn penderfynu beth fydd yn digwydd nesaf.
Dechrau nawr

Help i ddefnyddio’r gwasanaeth

Ffoniwch un o ganolfannau cyswllt cwsmeriaid y Tribiwnlys Cyflogaeth. Ni allant roi cyngor cyfreithiol i chi.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm
Rhif Ffôn: 0300 323 0196
Rhif ffôn: 0300 303 5176 (Llinell Iaith Gymraeg)
Rhif ffôn: 0300 790 6234 (Yr Alban)


Gwybodaeth am brisiau galwadau